Dehongliad artist o SMR y DU

Wedi'i greu â sicrwydd…

…achos busnes cadarn

Mae'r sicrwydd sydd wrth wraidd ein technoleg SMR y DU yn sail i achos busnes cadarn ar gyfer perchnogion, gweithredwyr, cyfleustodau a llywodraethau. Mae gwybod beth yw'r costau adeiladu a phris y trydan a gynhyrchir yn gwneud ynni niwclear yn ddewis ar gyfer y rheini na fyddai fel arall yn gallu ei fforddio.

Ailymweld â thechnoleg

Wrth galon technoleg SMR y DU y mae ailbecynnu technoleg ddibynadwy a phrofedig yn llwyddiannus, gan ganiatáu ar gyfer adeiladu modiwlar oddi ar y safle gan ddefnyddio cydrannau safonol a thechnegau gweithgynhyrchu datblygedig.

Cysyniad

Nid oes yn rhaid i bethau da fod yn bethau mawr, a thrwy ailwampio technolegau profedig yn gysyniad gwahanol, mae ein dull ar gyfer SMR y DU wedi cael ei ddatblygu o'r gwaelod i fyny yn seiliedig ar anghenion cwmnïau cyfleustodau ynni a gweithredwyr i ddarparu'r gefnogaeth orau bosibl i'w cwsmeriaid.

Sicrwydd

Mae defnyddio safonau a thechnolegau niwclear cydnabyddedig yn dileu ansicrwydd o'r broses trwyddedu - a hefyd yn creu sicrwydd ynghylch cost creu gweithfeydd, yr amser a gymer i'w creu, a chost y trydan y byddant yn eu cynhyrchu.

Arloesedd

Ar bob adeg yn natblygiad ein datrysiad SMR y DU, rydym wedi ceisio defnyddio dull modiwlar i leihau cost trydan cyn ised ag sy'n ymarferol bosibl, tra ar yr un pryd adeiladu mewn nifer o haenau atal gwallau a diogelwch er mwyn gwneud yn siŵr bod y dechnoleg yn ddiogel ym mhob ffordd y mae'n gweithredu.

Gyda'n Gilydd

Rydym yn arwain y gydweithfa beirianneg genedlaethol fwyaf a welwyd erioed yn y DU, gan ddefnyddio rhai o'r sefydliadau mwyaf uchel eu parch ac arloesol sy'n bod. Mae gan bob un hanes da o gyflawni rhaglenni cymhleth ac ar raddfa fawr yn llwyddiannus.

Dewis amgen yn ddiamau

Gall technoleg SMR y DU, yn unol â gweledigaeth y consortiwm a arweinir gan Rolls-Royce yn y DU, gynhyrchu pŵer niwclear mewn modd newydd yn unrhyw le yn y byd. Mae'n datrys y broblem o sut i greu ynni fforddiadwy, a mwy ohono, gyda llai o ôl-troed carbon.

Mae'r sector ynni byd-eang yn wynebu pwysau cynyddol i gynhyrchu mwy o bŵer yn gyflymach ac mewn rhagor o leoedd a gyda mwy o sicrwydd o ran argaeledd, cost, gallu a hyblygrwydd a chostau mewnbwn is ac effaith lai ar yr amgylchedd. Mae bodloni'r ddwy elfen wedi gofyn am ddull newydd. Ein cysyniad SMR y DU yw'r ateb.

Diweddariadau am raglenni

Drwy adeiladu nifer o fersiynau o'r un cynnyrch mewn amgylchedd 'llinell gynhyrchu' wedi'i rheoli, mae arbedion yn dod yn haws i'w cyflawni, gan wneud pob uned yn fwy fforddiadwy nag un prosiect mawr ar ei ben ei hun.

Mae cynhyrchu modiwlau mewn ffatrïoedd yn dileu'r holl risgiau o ran costau ac amserlennu sy'n gysylltiedig â gweithgynhyrchu ar safle ar gyfer prosiectau ar raddfa fawr. Gellir cludo modiwlau i'r safle ar gerbyd yn union pan fo eu hangen.

Drwy adeiladu nifer o fersiynau o'r un cynnyrch mewn amgylchedd 'llinell gynhyrchu' wedi'i rheoli, mae arbedion yn dod yn haws i'w cyflawni, gan wneud pob uned yn fwy fforddiadwy nag un prosiect mawr ar ei ben ei hun.

Mae sefydlu dull adeiladu modiwlar manwl gan ddefnyddio'r un cynllun trwyddedig yn rhoi sicrwydd o ran cost a safonau diogelwch gyda pheirianneg fanwl gywir y gellir ei ailadrodd.

Wedi'u hadeiladu mewn un lleoliad, gellir cludo elfennau o SMR dramor gan ddefnyddio llongau, rheilffyrdd neu ffyrdd a'u cyd-osod ar y safle, gyda rhaglen ragweladwy o'r concrid cyntaf i gomisiynu mewn dim ond pedair blynedd, yn cynnwys 500 diwrnod ar y safle ar gyfer adeiladu modiwlar.

Lawrlwythiadau

A National Endeavour
-
Download
Small Modular Reactors Brochure
pdf - 5.2MB
Download
SMR Technical Summary
-
Download

To view English / Welsh version, please click here.

Darganfod mwy

Trent XWB – 1 miliwn o oriau hedfan peiriant

Advance3 bron â'i gwblhau

Torri tir newydd

Profi cydrannau

Load more